11/05/2020 - 24/05/2020 All Day
Cardiff
Rydym yn dathlu Pythefnos Gofal Maeth (Mai 11-24) drwy oleuo Neuadd y Ddinas yn oren i ddangos ein bod yn gwerthfawrogi ein gofalwyr maeth ymroddedig sy’n gweddnewid bywydau plant a phobl ifanc.
Y thema eleni yw Dyma Yw Maethu a byddwn yn ei defnyddio ar draws ein sianeli digidol i amlygu peth o waith anhygoel ein gofalwyr maeth, i fagu cefnogaeth i faethu, ac i wneud pobl yn ymwybodol bod pob math o bobl yn gallu maethu. P’un a ydych yn berson sengl, LGBT+ neu anabl, mae angen gofalwyr maeth ar Gyngor Caerdydd, sy’n chwilio am bobl mor egnïol ac amrywiol â’r ddinas ei hun.
Cymerwch ran!
Dangoswch eich cefnogaeth drwy ymweld â’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a rhannwch ein cynnwys i helpu rhagor o bobl i ddeall a gwerthfawrogi maethu a’r gwahaniaeth cadarnhaol y gall ei wneud i fywydau pobl ifanc. Os byddwch yn postio rhywbeth eich hunan, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r hashnodau swyddogol #DymaYwMaethu a #PGM2020
Allech chi neu ffrind gefnogi plentyn lleol sydd mewn angen?
Mae ein tîm maethu yn gweithio’n galed i barhau gyda’r broses faethu yng Nghyngor Caerdydd. Os ydych chi neu rywun rydych yn ei nabod yn ystyried gofal maeth fel llwybr gyrfa newydd yna cysylltwch â’n tîm.
#DymaYwMaethu #PGM2020
*Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i’r digwyddiad hwn, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Location Map Unavailable
Comments are closed.