Chwefror 6, 2025
10:00 am-2:00 pm
Sports Wales National Centre
Mae Gwasanaeth i Mewn i Waith Cyngor Caerdydd yn cynnal Ffair Swyddi AM DDIM mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, Maximus a’r AGPh, gyda rhywbeth at ddant pawb!
Awgrymiadau Da ar gyfer Ffair Swyddi Caerdydd
Rydyn ni’n falch iawn o’ch croesawu i Ffair Swyddi Caerdydd ddydd Iau, 6 Chwefror 2025! Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod i wneud y gorau o’r digwyddiad a gadael argraff barhaol.
- Cynlluniwch Pryd Byddwch yn Dod
- Ble a Phryd:
- Caiff y digwyddiad ei gynnal o 10am i 2pm yng Nghanolfan Chwaraeon Genedlaethol, Chwaraeon Cymru yng Ngherddi Sophia.
- Am gyfarwyddiadau, edrychwch ar Google Maps neu ewch i wefan Chwaraeon Cymru am ragor o fanylion am y lleoliad.
- Beth i’w Wneud wrth Gyrraedd:
- Ewch i’r ddesg groeso yn y dderbynfa, lle byddwch yn:
- Sganio’ch Cod QR Eventbrite ar gyfer mynediad.
- Cael cynnig cyfle i gofrestru ar gyfer Cymorth cyflogaeth y Gwasanaeth i Mewn i Waith ar gyfer arweiniad gyrfa parhaus (dysgwch ragor yma).
- Ewch i’r ddesg groeso yn y dderbynfa, lle byddwch yn:
- Hygyrchedd i Bawb:
- Mae’r lleoliad yn gwbl hygyrch i bawb sy’n bresennol.
- Caiff awr dawel ei chynnal o 1pm i 2pm. Os ydych chi’n teimlo y byddech chi’n elwa o fynychu yn ystod y cyfnod hwn, mae croeso i chi wneud hynny.
- Byddwch yn Barod
- Dewch â chopïau o’ch CV:
- Mae CV printiedig yn hanfodol! Os nad oes gennych un eisoes, gallwch ymweld â Chlwb Swyddi y Gwasanaeth i Mewn i Waith cyn y digwyddiad i argraffu eich CV. Dewch o hyd i leoliad yma.
- Gwisgwch i wneud argraff:
- Nid oes angen gwisg ffurfiol, ond byddai’n ddelfrydol gwisgo’n hamddenol smart. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n edrych yn daclus, yn ffres, ac yn broffesiynol—mae argraffiadau cyntaf yn bwysig!
- Wi-Fi am ddim:
- Cadwch mewn cysylltiad drwy gydol y digwyddiad gyda Wi-Fi am ddim.
- Llywio’r digwyddiad yn broffesiynol
- Map a Rhestr mynychwyr:
- Edrychwch ar fap cynllun yr ystafell a rhestr lawn o fynychwyr i gynllunio pa stondinau yr hoffech ymweld â nhw yn gyntaf.
- Ymgysylltu â chyflogwyr:
- Siaradwch yn hyderus, gofynnwch gwestiynau ystyrlon, a dangos brwdfrydedd dros gyfleoedd. Cofiwch, dyma’ch cyfle i sefyll allan!
- Chwiliwch am y bathodynnau “Hapus i Helpu”:
- O amgylch y digwyddiad, bydd staff yn gwisgo bathodynnau Hapus i Helpu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, mae croeso i chi gofyn iddyn nhw.
- Bydd gan yr aelodau staff hyn hefyd Cod QR ar eu cortynnau, y gallwch ei sganio i gofrestru ar gyfer ein ffeiriau Swyddi yn y dyfodol.
- Cyfleusterau i wneud eich diwrnod yn haws
- Lluniaeth:
- Mae caffi ar y safle sy’n gweini diodydd poeth ac oer, yn ogystal â byrbrydau. Mae man eistedd clyd lle gallwch gymryd hoe os oes angen.
- Wedi’r Ffair
- Dilynwch y cysylltiadau rydych chi’n eu gwneud ac arhoswch mewn cysylltiad. Mae llawer o gyflogwyr yn gwerthfawrogi e-bost diolch neu gais cysylltiad drwy LinkedIn.
- Cadwch yn gyfredol gyda chyfleoedd a digwyddiadau yn y dyfodol trwy ddilyn tudalen Facebook y Gwasanaeth i Mewn i Waith: https://www.facebook.com/intoworkcardiff/.
Rydyn ni’n methu aros i’ch gweld chi yn Ffair Swyddi Caerdydd! Mae’n gyfle cyffrous i gwrdd â chyflogwyr, archwilio opsiynau gyrfa, a chymryd y cam nesaf yn eich taith gyrfa.
Pob lwc, a chofiwch i ddod â’ch fersiwn orau ohonoch chi eich hunan!
Gweld y rhestr o gyflogwyr sy’n mynychu ar y diwrnod
Lawrlwytho manylion cyflogwyr ar gyfer Ffair Swyddi Caerdydd
Map Ffair Swyddi
Er mwyn helpu i ddod o hyd i gyflogwyr penodol yn y lleoliad, gallwch lawrlwytho map y digwyddiad (JPG).
Ymunwch â ni a chysylltu â dros 60 o gyflogwyr, hyfforddwyr a darparwyr gwasanaethau o amrywiaeth eang o sectorau. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn rolau gweinyddol, prentisiaethau, lletygarwch, neu ddiwydiannau eraill, mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael—gan gynnwys swyddi lefel mynediad.
Y flwyddyn hon, rydyn ni’n mynd yn fwy ac yn well, gyda nodweddion newydd cyffrous wedi’u cynllunio i wneud eich profiad hyd yn oed yn fwy gwerth chweil:
- Ardal ymgeisio am swyddi byw: Bydd ein tîm digidol wrth law i arwain ceiswyr gwaith trwy geisiadau byw ar gyfer rolau agored. Cadwch lygad am ddiweddariadau ar gysylltiadau swyddi byw yn agosach at y digwyddiad!
- Cymhorthfa Cyngor CV: Bydd cynghorwyr arbenigol yn rhoi adborth ar CVs, gan helpu ymgeiswyr i wella a rhoi sglein ar eu proffiliau.
- Arddangosiadau Busnes: Bydd cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau yn arddangos eu diwydiannau gydag arddangosiadau byr i ysbrydoli ac ymgysylltu â cheiswyr gwaith. O diwtorialau harddwch gan Avon i arddangosiadau ffitrwydd gan ddarparwyr gofal, mae rhywbeth at ddant pawb!
Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn i rwydweithio, dysgu a chymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Eisiau achub y blaen?
Gallwch gael eich tocyn am ddim nawr i:
Roi cynnig ar ein raffl—gwobr arbennig dim ond am gofrestru!
Derbyn adnoddau unigryw, gan gynnwys:
- Rhestr o gyflogwyr a fydd yn bresennol yn y digwyddiad.
- Awgrymiadau gwych ar gyfer creu argraff gyntaf wych.
- Canllawiau ar beth i’w ofyn i fyrddau cyflogwyr.
Mwy o ddigwyddiadau
Edrychwch ar ein holl ddigwyddiadau a gweithdai sydd ar ddod nawr!
Lleoliad
Map Unavailable
Comments are closed.