Amdanom Ni

Mae’r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn rhoi cymorth digidol a chyflogaeth i unigolion sy’n chwilio am waith neu sy’n ceisio dysgu sgiliau ychwanegol.

Rydym yn cynnig cymorth un i un mewn dros 20 o wahanol safleoedd, cymorth mentora dwys drwy brojectau a ariennir yn allanol a chyfleoedd i wirfoddoli.

Mae’r cymorth y mae’r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn ei roi yn cynnwys:

Cymorth Gyda Chyflogaeth – CVs, chwilio am waith, ymgeisio am swyddi, sgiliau cyfweliad, gwneud cais am fudd-daliadau, cyrchu cyllid ar gyfer hyfforddi a dileu rhwystrau terfynol h.y. costau gofal plant, dillad ar gyfer cyfweliad, hyfforddiant sgiliau yn y gwaith (achrededig a heb eu hachredu), cymorth digidol i ddinasyddion Caerdydd.

Rydym hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr sy’n chwilio am gyflogeion, lle i gynnal cyfweliadau, a hyfforddiant yn gyfnewid am sicrwydd o gael lle i gynnal cyfweliadau.

Gweld ein gwefannau eraill

Yr Hub Dysgu Caerdydd Caerdydd ar waith Gwirfoddoli Caerdydd Cyngor Ariannol