Mae timau I Mewn I Waith a Dysgu Cymunedol i Oedolion Cyngor Caerdydd yn rhoi pecyn cyn cyflogaeth cyfan i fusnesau lleol. Gall y timau helpu i ddenu ymgeiswyr addas sydd wedi’u hasesu eisoes ac yn barod i gael eu cyflogi.
Yn 2017 gwnaethom helpu dros 40,000 o bobl o dros 30 o leoliadau gwahanol gyda gweithgareddau sy’n perthyn i’r gwaith ac 80 o gyflogwyr i lenwi swyddi gwag yr oedd ganddynt ledled y ddinas. Ar y cyd â’r Ganolfan Waith, bydd y timau’n cynnal 2 ffair swyddi fawr bob blwyddyn, a bydd miloedd yn mynychu. Byddant hefyd yn cynnal nifer o ffeiriau swydd llai mewn cymunedau lleol.