Mae ein Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Lleol yn cefnogi oedolion awtistig ac oedolion ag anableddau dysgu (neu’r ddau) i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy
Y cymorth y byddwch yn ei dderbyn:
- Mentor cyflogaeth pwrpasol.
- Help i nodi’r math o waith rydych chi am ei wneud a sut i gael gafael arno.
- Eich cefnogi i ddod o hyd i leoliadau gwaith a phrofiad gwaith
- Mynediad at hyfforddiant a datblygu.
- Bydd yn gweithio gyda’ch cyflogwr, i weld sut y gall eich cefnogi yn ystod y broses recriwtio a phan fyddwch yn y gweithle i wneud y gyflogaeth yn gynaliadwy.
- Helpu gyda phryderon ariannol ynghylch dechrau gwaith a chyfrifiadau ‘gwell ei fyd’.
- Eich cefnogi wrth i chi ddysgu, drwy hyfforddiant rheolaidd yn y gwaith, cefnogaeth gan rywun yn y gweithle a/neu adolygiadau rheolaidd.
Cymhwysedd
Rhaid i ymgeiswyr fod:
- Yn 16 oed neu’n hŷn
- Yn byw yng Nghaerdydd
- Ddim mewn gwaith cyflogedig nac addysg amser llawn
- Ddim ar raglen gyflogaeth arall a ddarperir gan adran o’r llywodraeth, ymddiriedolaeth elusennol, neu drydydd parti.
Cysylltwch â ni:
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.
Rydym hefyd yn derbyn atgyfeiriadau gan aelodau o’r teulu a gweithwyr proffesiynol.
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner sy’n helpu i sicrhau lleoliadau gwirfoddoli, yn rhoi gwybodaeth a chymorth cyflogadwyedd. Cymerwch olwg ar ein tudalen partneriaid i ddysgu mwy.
Os oes angen unrhyw gymorth arall arnoch ynghylch gwirfoddoli, gwybodaeth a chymorth, gallech gysylltu ag un o’r sefydliadau eraill sy’n gweithio yng Nghaerdydd: