Polisi Preifatrwydd y Gwasanaeth i Mewn i Waith

Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at ddibenion y data sy’n cael ei gasglu.

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae’r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio’n gwefan neu’n gwasanaeth.

Mae’r holl ddata personol a gesglir yn cael ei brosesu yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn casglu’r data canlynol:

  • Gwybodaeth adnabod bersonol, gan gynnwys eich enw llawn, cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
  • Data cymhwysedd, sy’n cynnwys eich statws dysgwr, eich statws cyflogaeth, a’r rheswm dros atgyfeirio
  • Efallai y byddwn yn casglu data categori arbennig fel tarddiad eich hil/ethnigrwydd a gwybodaeth am anabledd ar gyfer Monitro Cyfle Cyfartal.

Cesglir hwn er mwyn cysylltu â chi i holi mwy am eich diddordeb ac i gadarnhau eich bod yn gymwys i gofrestru ar y prosiect yn unol â’r gofynion ariannu.

Sut rydym yn casglu eich data?

Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn casglu eich data personol pan fyddwch yn:

  • Cofrestru eich diddordeb yn ein gwasanaethau drwy’r llinell gymorth, awp i Mewn i Waith Caerdydd neu swyddog i Mewn i Waith
  • Cofrestru ar-lein neu’n cysylltu â ni drwy e-bost neu dros y ffôn i ddefnyddio ein gwasanaethau
  • Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu’n rhoi adborth ar unrhyw un o’n byrddau negeseuon neu drwy e-bost.
  • Defnyddio ein gwefan neu edrych arni trwy gwcis eich porwr.

Efallai y bydd y Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith hefyd yn derbyn eich data yn atgyfeirwyr trydydd parti yr ydych wedi rhoi caniatâd iddynt weithredu ar eich rhan at ddibenion sicrhau hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau/Canolfan Waith
  • Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Cymdeithasau Tai
  • Unrhyw sefydliad trydydd parti arall sydd wedi darparu gwybodaeth ar eich rhan ar gyfer derbyn cymorth

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn prosesu eich data fel y gallwn roi cymorth a chefnogaeth un-i-un arbenigol i’ch helpu i ddychwelyd i’r gwaith, i uwchsgilio yn eich rôl bresennol neu i gael cymwysterau newydd. Byddwn yn defnyddio eich data at y dibenion canlynol:

  • cysylltu â chi am gefnogaeth
  • asesu cymhwysedd ar gyfer ein gwasanaethau
  • dibenion ystadegol a chyfeiriadol
  • cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol fel Awdurdod Lleol
  • delio ag ymholiadau gennych ac ymateb i unrhyw anghydfod gwirioneddol neu bosib yn ymwneud â chi
  • trosglwyddo’r data gofynnol i arianwyr prosiectau rydych wedi cofrestru gyda nhw fel rhan o’n gofynion ariannu

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?

Rhennir eich data personol â’r sefydliadau partner a restrir;

CITB

Caiff y data hwn ei rannu er mwyn dangos cymhwysedd i gofrestru ar yr hyfforddiant ac i hwyluso adroddiadau dienw ar effaith gymdeithasol y prosiect

Llywodraeth Cymru

Mae gwybodaeth ystadegol yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru at ddibenion archwilio a gwirio arian prosiect cyflogadwyedd.

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth gydag adrannau eraill yng Nghyngor Caerdydd ar gyfer gwasanaethau neu gymorth ychwanegol lle rydych wedi rhoi eich caniatâd ymlaen llaw.

Sut rydym yn storio eich data?

Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn ei storio’n ddiogel ar ein gweinyddwyr.

Bydd y Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn cadw eich manylion personol a’ch data cymhwysedd ar gyfer y prosiect am hyd at dair blynedd (Cylch bywyd y prosiect).

Ar ôl diwedd y cyfnod hwn, byddwn yn dileu eich data trwy ei ddileu o’n systemau’n anadferadwy.

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:

Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith am gopïau o’ch data personol.

Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith gwblhau’r wybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.

Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith ddileu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu i’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith drosglwyddo’r data rydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost: diogeludata@caerdydd.gov.uk

Ffoniwch ni yn:

Neu ysgrifennwch atom:

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Ein sail gyfreithlon

Ein sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data personol yn gyffredinol fydd un neu fwy o’r canlynol:

Lle rydych wedi rhoi caniatâd i’ch data personol gael ei brosesu er mwyn derbyn hyfforddiant gan y Gwasanaeth i Mewn i Waith. Lle dibynnir ar eich caniatâd, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg a gallwch wneud hynny drwy gysylltu â ni’n uniongyrchol ar cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk .

Mae angen i ni brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Lleol.

Efallai y byddwn hefyd yn prosesu eich data lle mae’n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys fel awdurdod lleol.

Sut i gysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd y Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni.

E-bostiwch ni yn: diogeludata@caerdydd.gov.uk

Neu ysgrifennwch atom yn:

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, gweler ein Polisi Preifatrwydd.

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol

Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad ydym wedi mynd i’r afael â’ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei wefan: Eich pryderon am wybodaeth bersonol | SCG neu drwy ffonio 0303 123 1113.

Hysbysiad Caniatâd

Drwy roi eich manylion cyswllt i ni, cofiwch y bydd aelod o staff y Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cysylltu â chi. Os byddwch yn newid eich meddwl neu’n dymuno tynnu’n ôl eich caniatâd i ni gysylltu â chi, anfonwch e-bost atom yn cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk.

Top