Gwaith cynnal a chadw hanfodol yn Hyb y Llyfrgell Ganolog - Dydd Sadwrn 8 Chwefror
Ni fydd cyfrifiaduron cyhoeddus a staff ac argraffu drwy WiFi ar gael ddydd Sadwrn 8 Chwefror yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.
Ni effeithir ar Hybiau a llyfrgelloedd eraill.
Logo Academi Adeiladu ar y Safle. 

Onsite Construction Academy's logo.

Gosodwch y Sylfeini ar Gyfer Eich Gyrfa

Mae’r Academi Adeiladu ar y Safle yn gynllun profiad gwaith a chyflogaeth a ariennir ac a gyflwynir gan Wasanaeth Cyngor i Mewn i Waith Cyngor Caerdydd.

Os ydych eisiau ehangu eich set sgiliau a chael cymwysterau i weithio ar safleoedd adeiladu, gallwn gynnig arweiniad a hyfforddiant i chi. Rydym yn cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith o safon ar safleoedd gydag ystod eang o gontractwyr i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu eich gyrfa.

Using a Bandsaw

Rydym yn gweithio gyda’r grwpiau canlynol:

Mae’r Academi Adeiladu ar y Safle yn croesawu ceiswyr gwaith, newidwyr gyrfa a’r rhai sy’n dychwelyd i’r diwydiant. Mae ein cwrs hyfforddiant adeiladu am ddim yn cynnwys:

  • Sgiliau ailgyflogi
  • Tystysgrifau diogelwch Lefel 2 achrededig
  • Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu Lefel 1, a
  • Chymhwyster cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS)

Efallai y byddwn hefyd yn gallu eich cefnogi i ennill ardystiad Diogelwch Personol ar Draciau’r Rheilffordd.

Ar ôl hyfforddiant, rydym yn rhoi ceiswyr gwaith mewn cysylltiad â chontractwyr lleol i gynnig cyfleoedd cyflogaeth a phrentisiaethau.

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ystod eang o sefydliadau yn cynnwys:

  • Awdurdodau Lleol
  • Sefydliadau Cyflogaeth y Llywodraeth
  • Prosiectau Cymorth Cyflogadwyedd
  • Cymdeithasau Tai

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r sefydliadau hyn drwy gydol taith y dysgwr i rannu cynnydd a thrafod materion, gan sicrhau’r deilliannau gorau posibl i bob dysgwr.

Rydym yn gweithio’n agos gyda chontractwyr cenedlaethol a lleol ac asiantaethau recriwtio ym maes adeiladu i roi profiad a chyfleoedd cyflogaeth i ddysgwyr.

Os ydych chi’n gyflogwr, cysylltwch â ni os gallwch gynnig cyfleoedd profiad ar y safle neu os ydych chi’n chwilio am weithwyr newydd. Gallwch hefyd siarad â’n Swyddog Gwerth Cymdeithasol ymroddedig ynghylch Budd-daliadau Lles Cymunedol.

Cymhwysedd

I fod yn gymwys i gael ein cefnogaeth mae’n rhaid i chi fod:

  • Ddim mewn addysg amser llawn
  • Dros 16 oed (dim terfyn oedran uchaf)
  • Yn byw yng Nghaerdydd
Logo Academi Adeiladu ar y Safle. 

Onsite Construction Academy's logo.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael profiad newydd ar safle a datblygu eich sgiliau, cysylltwch â ni:

02920 871 071

CyswlltCyflogwyr@cardiff.gov.uk

Hardhats
Top