Cymorth Mentor 16-24 Oed

Newydd adael yr ysgol a ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf?

Gallwn ni eich helpu i benderfynu ar eich cam nesaf – boed yn dychwelyd i addysg, neu’n mynd i gyflogaeth neu hyfforddiant.

Gall y gwasanaeth I Mewn I Waith ddarparu’r canlynol i chi:

  • Cyngor arbenigol ar gyflogaeth
  • Hyfforddiant am ddim (os yw ar gael)
  • Oes costau ymlaen llaw cyn y gallwch ddechrau swydd? Gallwn ariannu hyn i chi!
  • Arweiniad 1:1 trwy’r anawsterau sydd ynghlwm wrth ddod o hyd i waith#

Mynnwch gip ar rai o’n projectau i weld pa rai sy’n gweddu orau i chi ac yna cysylltwch.

Woman using a phone

Cymunedau am Waith +

  • Cymorth 1:1 i ddod o hyd i waith!
  • Rydym yn gweithio yn eich ardal leol. Gallwn ni gwrdd lle rydych yn teimlo’n gyfforddus.
  • Hyfforddiant Am Ddim
  • Cymorth ariannol i’ch helpu i gael gwaith – gan gynnwys talu am gostau gofal plant a chludiant, dillad sydd eu hangen yn benodol ar gyfer cyfweliadau neu’r gwaith yn ogystal â ffioedd cyrsiau hyfforddi arbenigol (yn amodol ar fod yn gymwys)
  • Cymorth 1:1 pwrpasol i lunio CV a chwblhau ffurflenni cais
  • Paratoi ar gyfer cyfweliadau a chyngor bywyd go iawn yn uniongyrchol gan gyflogwyr

Cymhwysedd

  • 16-24 oed
  • Ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
  • Byw yng Nghaerdydd

Project MILES

  • Ydych chi’n ddigartref, yn syrffio soffas neu’n cael trafferth gyda llety? Yna mae’r project hwn ar eich cyfer chi!
  • Mae ar waith mewn llawer o Hosteli Ieuenctid – holwch eich gweithiwr hostel am ein cymorth.
  • Cymorth 1:1 i ddod o hyd i waith!
  • Cymorth ariannol i’ch helpu i gael gwaith – gan gynnwys talu am gostau gofal plant a chludiant, dillad sydd eu hangen yn benodol ar gyfer cyfweliadau neu’r gwaith yn ogystal â ffioedd cyrsiau hyfforddi arbenigol (yn amodol ar fod yn gymwys)
  • Cymorth 1:1 pwrpasol i lunio CV a chwblhau ffurflenni cais
  • Paratoi ar gyfer cyfweliadau a chyngor bywyd go iawn yn uniongyrchol gan gyflogwyr
  • Cymorth wrth ystyried eich dewisiadau tai
  • Cymorth wrth fynychu cyfarfodydd neu apwyntiadau tai

Cymhwysedd

  • 16-24 oed
  • Yn ddigartref neu’n cael trafferth gyda llety
  • Ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
  • Byw yng Nghaerdydd

Project Dyfodol Disglair

Mae’r project hwn ar gyfer pobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal neu sy’n derbyn gofal yng Nghaerdydd.

  • Cymorth 1:1 i ddod o hyd i waith!
  • Rydym yn gweithio yn eich ardal leol. Gallwn ni gwrdd lle rydych yn teimlo’n gyfforddus.
  • Hyfforddiant Am Ddim – cliciwch y ddolen i weld pa hyfforddiant sydd ar gael
  • Cymorth ariannol i’ch helpu i gael gwaith – gan gynnwys talu am gostau gofal plant a chludiant, dillad sydd eu hangen yn benodol ar gyfer cyfweliadau neu’r gwaith yn ogystal â ffioedd cyrsiau hyfforddi arbenigol (yn amodol ar fod yn gymwys)
  • Cymorth 1:1 pwrpasol i lunio CV a chwblhau ffurflenni cais
  • Paratoi ar gyfer cyfweliadau a chyngor bywyd go iawn yn uniongyrchol gan gyflogwyr

Lleoliadau Gwaith 6 Mis

  • Ennill hyd at £75 yr wythnos gyda’r Lwfans Lleoliad
  • Ni fydd Lwfans Lleoliad yn effeithio ar gredyd cynhwysol nac unrhyw fudd-daliadau eraill rydych yn eu derbyn
  • Bydd cymorth ariannol ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer tocynnau bws/trên/beic, gwisgoedd a chyfarpar diogelu personol
  • Bydd gennych fentor yn y gwaith i’ch helpu i ddysgu sgiliau newydd
  • Bydd Gweithiwr Cymorth Dechrau Disglair yn cwrdd â chi bob wythnos yn eich lleoliad gwaith

Gwyliwch ein fideo i weld yr hyn y gall Project Dyfodol Disglair ei gynnig i chi.

Project Hyb Pafiliwn Butetown

Ydych chi’n byw yn Butetown neu’n treulio llawer o amser yn Butetown?

We can help you with:

  • Dod o hyd i waith
  • Gwneud cais ar gyfer y brifysgol
  • Cyngor ac arweiniad ar gyfer cymryd eich camau nesaf o ran addysg neu gyflogaeth
  • Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i roi hwb i’ch gyrfa
  • Cyngor a chymorth ynglŷn â hunangyflogaeth
  • Eich cyflwyno i gyflogwyr a thimau cyswllt cyflogaeth
  • Dod o hyd i gyfleoedd

Beth am sgwrsio â ni ar-lein i gael cyngor?

Siaradwch â ni ar-lein neu anfonwch neges

Rhaglen Fentora Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Angen help i drafod cyfleoedd a chymryd eich camau nesaf? Ddim yn hollol barod ar gyfer cymorth cyflogaeth?

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yma i wrando, nodi eich sgiliau a chreu cynlluniau gweithredu personol i’ch helpu i gyflawni eich uchelgais o ran addysg, hyfforddiant neu yrfa.

Bydd ein dull sy’n canolbwyntio ar unigolion yn eich helpu i:

  • Nodi eich sgiliau a’ch galluoedd unigol
  • Goresgyn ffactorau neu anawsterau sy’n eich atal rhag cyflawni eich potensial
  • Gwneud eich dewisiadau addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • Nodi cyrsiau addysg neu hyfforddiant addas
  • Derbyn y gwasanaethau iawn mae eu hangen arnoch
  • Dod o hyd i gyfleoedd priodol
Logo_cyx1

Mynnwch sgwrs gyda ni ar-lein neu rhowch alwad i ni ar 029 20 871 071 i drafod eich anghenion yn llawn.

Gweld ein gwefannau eraill

Yr Hub Dysgu Caerdydd Caerdydd ar waith Gwirfoddoli Caerdydd Cyngor Ariannol