Help Gan Ein Tîm

Cael help gan y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith

Ydych chi’n chwilio am swydd ac angen help i ddefnyddio’r rhyngrwyd neu greu cyfrif e-bost?

Ydych chi angen help i fynd ar-lein i hawlio’r Credyd Cynhwysol?

Mae tîm i Mewn i Waith yn cynnig sesiynau galw heibio anffurfiol am ddim mewn lleoliadau ledled Caerdydd i drigolion sy’n chwilio gwaith neu sy’n awyddus i wella eu sgiliau yn eu swyddi presennol.

Mae ein cynghorwyr a mentoriaid yn arbenigo mewn helpu unigolion gyda’u hanghenion penodol a gallant eich helpu i ddod o hyd i yrfa o’ch dewis.

Mae ystod o hyfforddiant am ddim ar gael mewn nifer o leoliadau. Mae cyllid hefyd ar gael ar gyfer hyfforddiant arbenigol i’ch helpu i wella’ch sgiliau a rhoi’r cyfle gorau i chi chwilio am waith.

Contact the Into Work service for advice and support
Gallwn ni eich helpu i Mewn i Waith.

Gall ein tîm eich helpu gyda’r canlynol:

  • Ysgrifennu CV
  • Ffurflenni cais a llythyrau eglurhaol
  • Chwilio am Swydd
  • Cymorth Chwilio am Gartref
  • Agor cyfrif Dod o Hyd i Swydd a’i ddefnyddio
  • Cyfrifiaduron
  • Gwneud cais am y Credyd Cynhwysol ar-lein
  • Hyfforddiant sgiliau gwaith fel codi a chario, hylendid bwyd a chymorth cyntaf
  • Technegau cyfweld
  • Lleoliadau gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli
  • Magu Hyder
  • Eich helpu i fynd yn ôl i waith

Gofynnwch gwestiwn neu siaradwch ag ymgynghorydd

Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm arbenigol yn cysylltu â chi i drafod yr help a’r cyfleoedd sydd ar gael i chi.

Drwy roi eich manylion cyswllt i ni, cofiwch y bydd aelod o staff y Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cysylltu â chi. Os byddwch yn newid eich meddwl neu’n dymuno tynnu’n ôl eich caniatâd i ni gysylltu â chi, anfonwch e-bost atom yn cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk.




    Cwrdd â rhai aelodau o’r tîm

    Gweld ein gwefannau eraill

    Yr Hub Dysgu Caerdydd Caerdydd ar waith Gwirfoddoli Caerdydd Cyngor Ariannol