Gall Mentoriaid Oedolion y Gwasanaeth i Mewn i Waith helpu!
Gall ein tîm ymroddedig o Fentoriaid Cyflogaeth Oedolion eich helpu gyda chyngor a chymorth cyflogaeth arbenigol, i gael hyfforddiant am ddim ac i fanteisio ar gronfa rwystrau ar gyfer anghenion hyfforddi pwrpasol yn ogystal â chael gwared ar unrhyw rwystrau i hyfforddiant neu gyflogaeth. Gellir darparu’r gwasanaeth ar sail 1:1 yn unrhyw un o’n Hybiau neu yn eich cymuned leol.
Mae gennym brosiectau cyflogaeth sy’n darparu ar gyfer y rhan fwyaf o amgylchiadau, p’un a ydych wedi cael eich diswyddo’n ddiweddar, yn ddi-waith yn hirdymor neu’n fyrdymor, yn ddi-waith oherwydd anabledd neu’n dymuno dychwelyd i’r gwaith ar ôl cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i dreulio amser gyda’ch plant.
Edrychwch ar y prosiectau a restrir isod ac os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni i fanteisio ar y cymorth y gallwn ei gynnig.
Cymunedau am Waith +
- Cymorth 1:1 i ddod o hyd i waith
- Rydym wedi ein lleoli yn eich cymuned leol; gallwn gwrdd lle byddwch yn teimlo’n gyfforddus
- Hyfforddiant am ddim
- Cymorth ariannol i’ch helpu i fynd i mewn i’r gwaith – gan gynnwys gofal plant byrdymor, costau trafnidiaeth, dillad cyfweliad/dillad sy’n benodol i waith yn ogystal â ffioedd cyrsiau hyfforddi arbenigol *yn amodol ar arian a chymhwysedd*
- Cymorth 1:1 pwrpasol i lunio CV a chwblhau ffurflenni cais
- Paratoi ar gyfer cyfweliadau a chyngor bywyd go iawn yn uniongyrchol gan gyflogwyr
Cymhwysedd
- 25+ oed
- 0-11 mis yn ddi-waith
- Yn byw yn ardal Caerdydd
Prosiect MILES
- Ydych chi’n ddigartref, yn syrffio soffas neu’n cael trafferth gyda llety? Yna mae’r project hwn ar eich cyfer chi!
- Cymorth 1:1 i ddod o hyd i waith!
- Cymorth ariannol i’ch helpu i gael gwaith – gan gynnwys talu am gostau gofal plant a chludiant, dillad sydd eu hangen yn benodol ar gyfer cyfweliadau neu’r gwaith yn ogystal â ffioedd cyrsiau hyfforddi arbenigol (yn amodol ar fod yn gymwys)
- Cymorth 1:1 pwrpasol i lunio CV a chwblhau ffurflenni cais
- Paratoi ar gyfer cyfweliadau a chyngor bywyd go iawn yn uniongyrchol gan gyflogwyr
- Cymorth wrth ystyried eich dewisiadau tai
- Cymorth wrth fynychu cyfarfodydd neu apwyntiadau tai
Cymhwysedd
- 25+ oed
- Yn ddigartref neu’n cael trafferth gyda llety
- Ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
- Byw yng Nghaerdydd