Hyfforddiant

Mynd i weithdy

Rydym yn cynnig hyfforddiant sgiliau gwaith un diwrnod am ddim gan gynnwys:

  • Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith Lefel 3
  • Cymorth Cyntaf Paediatreg Lefel 3
  • COSHH (Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd) Lefel 2
  • Diogelwch Bwyd ym Maes Arlwyo Lefel 2
  • Codi a Chario Lefel 2
  • Iechyd a Diogelwch Lefel 2

Drwy roi eich manylion cyswllt i ni, cofiwch y bydd aelod o staff y Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cysylltu â chi. Os byddwch yn newid eich meddwl neu’n dymuno tynnu’n ôl eich caniatâd i ni gysylltu â chi, anfonwch e-bost atom yn cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk.



    Gallwn hefyd eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a chael cyllid ar gyfer hyfforddiant arbenigol gan gynnwys:

    • Trwydded ADD (Awdurdod y Diwydiant Diogelwch)
    • Cerdyn CSCS (Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu)
    • Offer Bach
    • Cynorthwy-ydd Addysgu
    • COSHH (Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd)
    • Gweithio yn y Maes Gofal

    Gallai hefyd fod arian ar gael i helpu gyda’r canlynol:

    • Costau Gofal Plant (ar gyfer cyfweliadau a hyfforddiant)
    • Costau Teithio (ar gyfer cyfweliadau a hyfforddiant)
    • Dillad Cyfweliadau
    • Offer Amddiffynnol Personol
    Top