Academi Gofalwyr Caerdydd

Cardiff Cares logo

Mae Academi Gofalwyr Caerdydd yn recriwtio ac yn hyfforddi Gweithwyr Gofal newydd ar gyfer sector gofal cymdeithasol y ddinas

Swyddi ar gael nawr

Gallwch ddechrau eich gyrfa ar unwaith a newid bywydau pobl er gwell.

Gwersi gyrru am ddim

Mae gennym arian i’ch helpu i gwblhau gwersi gyrru.

Gwiriad GDG am ddim

Gallwn dalu am eich cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).

Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y maes gofal cymdeithasol?  Gallwch wneud gwahaniaeth, dechreuwch eich gyrfa fel Gweithiwr Gofal heddiw.

Fel Gweithiwr Gofal, byddwch yn:

  • newid bywydau pobl er gwell
  • defnyddio eich sgiliau a’ch profiad i helpu pobl eraill i fyw’n annibynnol
  • derbyn hyfforddiant a chymorth personol
  • cael eich cefnogi i ddod o hyd i’r rôl gywir i chi

Mae nifer o swyddi gwag ar gael ar draws nifer o rolau gofalu

Gofal Preswyl

Cefnogi pobl mewn cartref gofal yn hytrach nag yn eu cartref eu hunain neu gartref teuluol.

Gofal Cartref

Darparu gwasanaethau a chymorth i bobl sy’n byw yn eu cartref eu hunain.

Cyfleoedd Canolfan Ddydd

Darparu ystod o gymorth i oedolion sy’n byw gyda Dementia mewn lleoliad Canolfan Ddydd.

Mae Gwaith Gofal yn rhoi profiad i chi o weithio gyda phobl sydd angen eich help, megis:

  • plant a phobl ifanc
  • pobl hŷn
  • pobl ag anabledd dysgu
  • pobl ag anabledd corfforol
  • pobl â phroblemau iechyd meddwl, neu
  • unigolion sydd angen cymorth oherwydd eu bod yn camddefnyddio sylweddau.

Pa hyfforddiant a chymorth fyddwch chi’n eu cael?

  • Deall rolau gofal gwahanol
  • Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ddementia
  • Diogelu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Sgiliau cyflogadwyedd megis Sgiliau magu hyder, gwaith tîm a chyfathrebu
  • Diogelwch Bwyd yn y maes Arlwyo Lefel 2

Mae gennym dîm o fentoriaid a hyfforddwyr ymroddedig a allai eich helpu.

Camwch ymlaen tuag at eich gyrfa mewn gofal

Cysylltwch â ni a dechreuwch eich gyrfa fel Gweithiwr Gofal drwy ffonio 029 2087 1071 neu e-bostio AcademiGofalCaerdydd@caerdydd.gov.uk

Gweld ein gwefannau eraill

Yr Hub Dysgu Caerdydd Caerdydd ar waith Gwirfoddoli Caerdydd Cyngor Ariannol