Credyd Cynhwysol a Budd-Daliadau

Sut gallwn ni eich helpu chi…

Gall gwasanaeth cyngor I Mewn I Waith roi cymorth wrth wneud cais am Credyd Cynhwysol a deall sut all y Cap Budd-daliadau effeithio arnoch.

Mae’n fudd-dal a fydd yn ymgorffori 6 budd-dal presennol ac mae ar gyfer pobl sydd yn y grŵp oedran gweithio, ar incwm isel, yn gweithio neu beidio. Cafodd ei gyflwyno er mwyn rhoi i bobl y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddod o hyd i waith a gwneud cynnydd, ond mae hefyd wedi’i anelu at helpu pobl gyda’u costau byw.

Caiff ei dalu’n fisol ac mae’n cynnwys y lwfans safonol yn ogystal ag unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol i chi (er enghraifft os oes gennych chi blant, anabledd neu gyflwr iechyd, ayyb.). Caiff eich amgylchiadau eu hasesu bob mis ac mae’n bosibl y bydd yr hyn a delir i chi yn newid. Mae’n bosibl y bydd y cap budd-daliadau yn cyfyngu ar faint o fudd-dal rydych yn ei dderbyn

Beth sydd ei angen er mwyn gwneud cais

Er mwyn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi sefydlu cyfrif ar-lein Credyd Cynhwysol.

Y ffordd orau, gyflymaf ac mwyaf diogel o gael mynediad at y dudalen we yw llofnodi i mewn gyda Gov.uk Verify.

Bydd angen:

  • Manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd
  • Cyfeiriad e-bost
  • Eich rhif Yswiriant Gwladol
  • Gwybodaeth am eich llety (h.y. faint o rent rydych yn ei dalu)
  • Manylion o’ch incwm (h.y. slipiau talu, manylion o fudd-daliadau)
  • Manylion o gynilon (megis eiddo rydych yn ei osod)
  • Manylion o faint byddwch yn ei dalu am ofal plant os ydych chi’n gwneud cais am gymorth gyda chost gofal plant (mae’n bosibl y bydd CC yn talu am 85% ohono)

Pan fyddwch yn gwneud cais, os na fydd yr holl ddogfennaeth gyda chi, efallai y bydd yn effeithio ar faint y cewch chi pan gewch eich talu.

A oes angen help? Dewch i’r Hyb!

Dim cyfrif banc neu gyfeiriad e-bost? Gallwn eich helpu chi!

Gallwch ymweld â’ch hyb lleol (a’n holl leoliadau ymestyn allan) i:

  • Gael cyngor ar sut i agor cyfrif banc
  • Agor cyfeiriad e-bost
  • Casglu gwybodaeth am eich llety os ydych yn denant y Cyngor
  • Cael manylion o’r budd-daliadau rydych yn eu derbyn eisoes (h.y. Budd-daliadau Plant)
  • Argraffu eich slip talu
  • Cael eich gwirio (Gov.uk Verify) er mwyn cofrestru gyda gwasanaeth ar-lein Credyd Cynhwysol
  • Diweddaru eich hawliad os bydd unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau
  • Creu/diweddaru/argraffu eich CV
  • Rheoli eich dyddlyfr er mwyn cynnal eich Credyd Cynhwysol
  • Cael rhagor o help/cymorth i’ch cael yn ôl i gyflogaeth/hyfforddiant

 

Universal Credit Money Manager

Beth yw’r Cap Budd-daliadau?

Mae ein Tîm Cyngor Ariannol ac i Mewn I Waith wedi casglu rhywfaint o wybodaeth i’ch helpu i ddeall y Cap Budd-daliadau a sut y gallai effeithio arnoch chi. Mae mwy o wybodaeth ar Gov.uk

Beth fydd y cap budd-daliadau yng Nghaerdydd?

£384.62 yr wythnos i gwplau a theuluoedd a £257.69 yr wythnos i oedolion sengl. Er bod y cyfyngiadau hyn wedi bod ar waith ers 7 Tachwedd 2016, ni chaiff pob cartref ei effeithio gan y newid yn syth. Os yw’r newid yn effeithio arnoch, byddwn yn cysylltu â chi i ddweud wrthych faint yw swm newydd y Budd-dal Tai a phryd fydd yn newid.

Pa incwm fydd yn cael ei ystyried?

Mae’r Cap Budd-daliadau yn gyfyngiad a osodir ar gyfanswm y budd-daliadau y gall cartref oedran gweithio ei dderbyn. Mae cartref yn golygu chi, eich partner ac unrhyw blant dibynnol sy’n byw gyda chi.

Beth fydd y cap budd-daliadau yng Nghaerdydd?

£384.62 yr wythnos i gwplau a theuluoedd a £257.69 yr wythnos i oedolion sengl. Er bod y cyfyngiadau hyn wedi bod ar waith ers 7 Tachwedd 2016, ni chaiff pob cartref ei effeithio gan y newid yn syth. Os yw’r newid yn effeithio arnoch, byddwn yn cysylltu â chi i ddweud wrthych faint yw swm newydd y Budd-dal Tai a phryd fydd yn newid.

Pa incwm fydd yn cael ei ystyried?

Mae’r Cap Budd-daliadau yn gyfyngiad a osodir ar gyfanswm y budd-daliadau y gall cartref oedran gweithio ei dderbyn. Mae cartref yn golygu chi, eich partner ac unrhyw blant dibynnol sy’n byw gyda chi.

  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Mam Weddw
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Profedigaeth
  • Lwfans Cefnogaeth a Chymorth (oni bai pan delir gyda’r grŵp cymorth)
  • Pensiwn Gweddwon (gan gynnwys yr elfen sy’n ymwneud ag oedran)
  • Lwfans Rhiant Gweddw

Fydd y cap yn berthnasol i bawb?

Na fydd. Os ydych chi, eich partner neu unrhyw blant dibynnol sy’n byw gyda chi yn derbyn unrhyw o’r budd-daliadau canlynol, ni effeithir arnoch, hyd yn oed os yw’ch incwm o’r budd-daliadau a restrir i’r dde yn fwy na’r swm wythnosol mwyaf.

  • Credyd Treth Gwaith
  • Taliadau Annibyniaeth Bersonol
  • Lwfans Gweini
  • Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Pensiwn Gweddwon Rhyfel
  • Budd-dal Anafiadau Diwydiannol
  • Pensiynau Rhyfel
  • Lwfans Gwarcheidwaid
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Elfen Gymorth y Lwfans Cefnogaeth a Chymorth
  • Taliadau Annibynnol y Lluoedd Arfog

Gwneir cyfanswm o incwm sy’n dod o’r budd-daliadau hyn yn unig:

Beth allaf ei wneud nawr?

Os ewch yn ôl i’r gwaith a hawlio Credyd Treth Gwaith, cewch eich eithrio o’r Cap Budd-daliadau ac ag mwy o arian bob wythnos

  • Edrych ar opsiynau i ddod o hyd i waith
  • Gwnewch gais am gymorth ariannol wrth i chi ddilyn Cynllun Gweithredu’r Gwasanaeth i Mewn i Waith

Os cytunwch i ymgysylltu â’r Gwasanaeth Cyngor I Mewn I Waith, gallwn roi Taliad Tai yn ôl Disgresiwn i chi am yr holl ddiffyg yn eich rhent neu ran ohono. Mae gan y Cyngor rywfaint o arian i wneud y taliadau hyn ac yn achos y sawl sydd fwyaf anghenus yn unig. Mewn achosion eithriadol, mae’n bosibl y gallwn roi arian i chi heb unrhyw gyswllt gennych chi. Siaradwch â’r Tîm Cyngor Ariannol.

 Adolygu eich cyllid

Gall y Tîm Cyngor Ariannol eich cynghori ar ddyled a chyllidebu. Gall hefyd sicrhau eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae hawl gennych i’w cael a bydd yn edrych i weld a allech fod yn gymwys i gael help ychwanegol fel gostyngiadau ar eich biliau nwy/trydan/dŵr.

Mr John was given financial help towards his rent while he engaged with the Into Work Advice Service. This meant the shortfall in his rent was paid by a Discretionary Housing Payment. He is now over £130 a week better off and is no longer affected by the benefit cap.

Where to go to get free debt advice

Dysgwch am beth gallech chi fod yn gymwys

Mae’n bosibl y bydd un o’n hymgynghorwyr arbenigol yn gallu eich helpu gyda mentora, talu am ofal plant, costau teithio a mwy.

I’n helpu i ddod o hyd i’r ymgynghorydd cywir i chi, atebwch y cwestiynau isod a bydd aelod o staff mewn cysylltiad.

Drwy roi eich manylion cyswllt i ni, cofiwch y bydd aelod o staff y Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cysylltu â chi. Os byddwch yn newid eich meddwl neu’n dymuno tynnu’n ôl eich caniatâd i ni gysylltu â chi, anfonwch e-bost atom yn cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk.



    Cysylltwch â ni …

    Ffoniwch y Tîm Cyngor Ariannol a’r Gwasanaeth Cyngor I Mewn I Waith ar 029 2087 1071

    E-bostiwch y Tîm Cyngor Ariannol hybcynghori@caerdydd.gov.uk
    neu ein
    Gwasanaeth Cyngor I Mewn I Waith cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk

    Gallwch fynd i fynd i unrhyw o’n Hybiau am fwy o wybodaeth ac mae help ar gael mewn llawer o ieithoedd

    Gweld ein gwefannau eraill

    Yr Hub Dysgu Caerdydd Caerdydd ar waith Gwirfoddoli Caerdydd Cyngor Ariannol