Hysbysiad Preifatrwydd Cysylltu â Gwaith

Gwaith cynnal a chadw hanfodol yn Hyb y Llyfrgell Ganolog - Dydd Sadwrn 8 Chwefror
Ni fydd cyfrifiaduron cyhoeddus a staff ac argraffu drwy WiFi ar gael ddydd Sadwrn 8 Chwefror yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.
Ni effeithir ar Hybiau a llyfrgelloedd eraill.
Llun yn dangos logo Cysylltu â Gwaith.

Trwy gyflwyno’r atgyfeiriad hwn, bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â’ch Awdurdod Lleol, Corff Atebol Cysylltu â Gwaith De-ddwyrain Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh), Timau Gwerthuso Cysylltu â Gwaith a sefydliadau cymorth trydydd parti lleol. Rydyn ni ond yn gofyn am wybodaeth sydd ei hangen arnom i helpu i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cyfredol a diduedd i chi.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu at y dibenion canlynol:

  • Cysylltu â chi i drafod Cysylltu â Gwaith a’r hyn y bydd cymryd rhan yn ei olygu
  • Gwirio a ydych chi’n gymwys i ymuno â Cysylltu â Gwaith
  • Cefnogi’r gwaith o gyflwyno a gwerthuso Cysylltu â Gwaith
  • Ar gyfer cyflogaeth a hyfforddiant
  • Ar gyfer ymchwilwyr
  • Ar gyfer gwerthuso
  • Efallai y bydd yr AGPh yn cael gwybodaeth amdanoch chi gan bartïon eraill at unrhyw un o ddibenion yr AGPh, fel y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu, i wirio’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu a gwella ei wasanaethau
  • Mae’r AGPh yn gallu rhoi gwybodaeth amdanoch chi i sefydliadau eraill, fel y mae’r gyfraith yn caniatáu, er enghraifft i amddiffyn rhag trosedd
  • Efallai y bydd y rhai nad ydynt yn gymwys yn cael eu hatgyfeirio at ddarpariaethau cyflogaeth amgen yn ardal eich awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau/cymorth cyflogaeth.

 

Mae Cysylltu â Gwaith wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a chydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw am 7 mlynedd ar ôl cwblhau’r prosiect, yn unol â chyfnodau cadw data Cysylltu â Gwaith.

O dan yr hawliau mynediad gwrthrych i ddata a roddir gan y GDPR, mae gennych yr hawl i:

  • Gael gwybod/cyrchu’r wybodaeth sydd gan y prosiect Cysylltu â Gwaith amdanoch chi
  • Gofyn i ni gywiro camgymeriadau yn y data hwnnw
  • Gwrthwynebu prosesu am resymau sy’n ymwneud â’ch sefyllfa benodol (mewn rhai amgylchiadau)
  • Cyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • Gofyn i’ch data gael ei ddileu (mewn rhai amgylchiadau)
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), sef y rheoleiddiwr annibynnol dros ddiogelu data

 Manylion Cyswllt SCG

Gwefan:Gwneud cwyn | ICO

Rhif Ffôn: 0303 123 1113

 Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu

Cyngor Caerdydd fydd y rheolwr data ar gyfer unrhyw ddata personol rydych wedi’i ddarparu mewn perthynas â’r rhaglen Cysylltu â Gwaith. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol sydd gennym i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd y rhaglen gyflogadwyedd.

Erthygl 6(1)(e) – Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg sy’n cael ei gwneud er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol, gyda sail glir yn y gyfraith.

Pa ddata personol fyddwn ni’n ei gasglu a’i brosesu

Mae pa ddata personol y byddwn yn ei gasglu ac yn ei brosesu yn cael ei ddiffinio o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.

Ar gyfer y rhaglen gyflogadwyedd hon, byddwn yn casglu’r data personol canlynol:

  • Enw(au) Cyntaf
  • Cyfenw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad E-bost Personol
  • Rhif Ffôn
  • Rhif Yswiriant Gwladol yr Hawlydd
  • Dyddiad Geni

Efallai y bydd data arall hefyd yn cael ei gasglu ond nid yw’n cael ei nodi fel data personol o dan GDPR y DU.

O dan Erthygl 9(2)(g) GDPR y DU – Rhesymau budd cyhoeddus sylweddol (gyda sail yn y gyfraith) fel ei sail gyfreithiol. Yr amod budd cyhoeddus sylweddol penodol a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018; yw bod Rhan 2 (8) yn gymwys: Cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal.

Data Categori Arbennig:

  • Cyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar weithio
  • Ethnigrwydd
  • Statws anabledd
  • Anghenion Cymorth

I gael gwybod mwy am ddibenion yr AGPh, sut mae’r AGPh yn defnyddio gwybodaeth bersonol at y dibenion hynny a’ch hawliau gwybodaeth, gan gynnwys sut i ofyn am gopi o’ch gwybodaeth, gweler gov.uk.

I gael gwybod mwy am ddibenion Cysylltu â Gwaith, sut mae Cysylltu â Gwaith yn defnyddio gwybodaeth bersonol at y dibenion hynny a’ch hawliau gwybodaeth, gan gynnwys sut i ofyn am gopi o’ch gwybodaeth, cysylltwch â Cysylltu â Gwaith.

Top