Os ydych chi’n awyddus i weithio gyda phlant mewn lleoliad gofal plant neu gynorthwywyr addysgu, mae ein Academi Cynorthwywyr Addysgu Gwasanaethau Cyngor i Mewn i Waith yma i’ch helpu.
- Hyfforddiant am ddim
- Cofrestru gyda CGA a GDG am ddim
- Cymorth cyflogaeth 1:1 a chyfleoedd i wirfoddoli
Cymorth mentora a chyfleoedd gwirfoddoli
Mae gennym Fentoriaid wrth law i’ch cefnogi i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth ac i gael mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli.
Hyfforddiant am ddim
Mae gennym gyllid ar gael i’ch helpu i gwblhau hyfforddiant.
Cofrestru gyda CGA a GDG am ddim
Gallwn dalu am eich gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (cais GDG a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg).
Mae hyfforddiant am ddim gan Addysg Oedolion Caerdydd ar gael i uwchsgilio a magu hyder i’ch cefnogi ar eich taith.
- Cefnogi Dysgu ac Addysgu: Lefel 2
- Diogelwch Bwyd: Lefel 2
- Modiwl Diogelu Plant: Tystysgrif gofal
- Cymorth Cyntaf ar Blant: Lefel 3
- Seicoleg Plant: Lefel 1 a 2
- Datblygu gwybodaeth plentyn am Rif: Lefel Mynediad 3
- Helpu Plentyn gyda Mathemateg drwy Chwarae: Lefel 1
- Cyflwyniad i Anableddau Dysgu: Lefel 1
- Ymwybyddiaeth o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG): Lefel 2
- Deall Awtistiaeth ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig: Lefel 1
- Cynorthwyo mewn gweithgaredd dysgu yn yr awyr agored: Lefel 1
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn: Lefel 1
- Cymorth Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion: Lefel 2
- Helpu Plentyn i Ddatblygu Sgiliau Gwrando: Lefel 1
- Helpu Plentyn i Sillafu: Lefel Mynediad 3
Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal bob dydd trwy gydol y flwyddyn ac yn amrywio o 7 awr i 40 awr o ddysgu fesul cwrs.
Bydd Mentoriaid Cyflogaeth y Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cynnig cymorth 1:1 i gefnogi eich taith ddysgu a’ch helpu i nodi’r hyfforddiant cywir i gyflawni eich nodau personol.
Cysylltu â Ni
E-bost: cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2087 1071
Ymweld â ni
Dewch o hyd i ni wrth y ddesg Cynorthwywyr Addysgu ar lawr gwaelod Hyb y Llyfrgell Ganolog, 10am i 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
