Academi Cynorthwywyr Addysgu

Gwaith cynnal a chadw hanfodol yn Hyb y Llyfrgell Ganolog - Dydd Sadwrn 8 Chwefror
Ni fydd cyfrifiaduron cyhoeddus a staff ac argraffu drwy WiFi ar gael ddydd Sadwrn 8 Chwefror yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.
Ni effeithir ar Hybiau a llyfrgelloedd eraill.

Gweithio gyda Phlant

Os ydych chi’n awyddus i weithio gyda phlant mewn lleoliad gofal plant neu gynorthwywyr addysgu, mae ein Academi Cynorthwywyr Addysgu Gwasanaethau Cyngor i Mewn i Waith yma i’ch helpu.

  • Hyfforddiant am ddim
  • Cofrestru gyda CGA a GDG am ddim
  • Cymorth cyflogaeth 1:1 a chyfleoedd i wirfoddoli

Cymorth mentora a chyfleoedd gwirfoddoli

Mae gennym Fentoriaid wrth law i’ch cefnogi i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth ac i gael mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli.

Hyfforddiant am ddim

Mae gennym gyllid ar gael i’ch helpu i gwblhau hyfforddiant.

Cofrestru gyda CGA a GDG am ddim

Gallwn dalu am eich gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (cais GDG a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg).

Mae hyfforddiant am ddim gan Addysg Oedolion Caerdydd ar gael i uwchsgilio a magu hyder i’ch cefnogi ar eich taith.

  • Cefnogi Dysgu ac Addysgu: Lefel 2
  • Diogelwch Bwyd: Lefel 2
  • Modiwl Diogelu Plant: Tystysgrif gofal
  • Cymorth Cyntaf ar Blant: Lefel 3
  • Seicoleg Plant: Lefel 1 a 2
  • Datblygu gwybodaeth plentyn am Rif: Lefel Mynediad 3
  • Helpu Plentyn gyda Mathemateg drwy Chwarae: Lefel 1
  • Cyflwyniad i Anableddau Dysgu: Lefel 1
  • Ymwybyddiaeth o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG): Lefel 2
  • Deall Awtistiaeth ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig: Lefel 1
  • Cynorthwyo mewn gweithgaredd dysgu yn yr awyr agored: Lefel 1
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn: Lefel 1
  • Cymorth Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion: Lefel 2
  • Helpu Plentyn i Ddatblygu Sgiliau Gwrando: Lefel 1
  • Helpu Plentyn i Sillafu: Lefel Mynediad 3

Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal bob dydd trwy gydol y flwyddyn ac yn amrywio o 7 awr i 40 awr o ddysgu fesul cwrs.

Bydd Mentoriaid Cyflogaeth y Gwasanaeth i Mewn i Waith    yn cynnig cymorth 1:1 i gefnogi eich taith ddysgu a’ch helpu i nodi’r hyfforddiant cywir i gyflawni eich nodau personol.

Cysylltu â Ni

E-bost: cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk

Ffôn: 029 2087 1071

Ymweld â ni

Dewch o hyd i ni wrth y ddesg Cynorthwywyr Addysgu ar lawr gwaelod Hyb y Llyfrgell Ganolog, 10am i 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Top