Trwy gyflwyno’r atgyfeiriad hwn, bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â’ch Awdurdod Lleol, Corff Atebol Cysylltu â Gwaith De-ddwyrain Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh), Timau Gwerthuso Cysylltu â Gwaith a sefydliadau cymorth trydydd parti lleol. Rydyn ni ond yn gofyn am wybodaeth sydd ei hangen arnom i helpu i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cyfredol a diduedd i chi.
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu at y dibenion canlynol:
- Cysylltu â chi i drafod Cysylltu â Gwaith a’r hyn y bydd cymryd rhan yn ei olygu
- Gwirio a ydych chi’n gymwys i ymuno â Cysylltu â Gwaith
- Cefnogi’r gwaith o gyflwyno a gwerthuso Cysylltu â Gwaith
- Ar gyfer cyflogaeth a hyfforddiant
- Ar gyfer ymchwilwyr
- Ar gyfer gwerthuso
- Efallai y bydd yr AGPh yn cael gwybodaeth amdanoch chi gan bartïon eraill at unrhyw un o ddibenion yr AGPh, fel y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu, i wirio’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu a gwella ei wasanaethau
- Mae’r AGPh yn gallu rhoi gwybodaeth amdanoch chi i sefydliadau eraill, fel y mae’r gyfraith yn caniatáu, er enghraifft i amddiffyn rhag trosedd
- Efallai y bydd y rhai nad ydynt yn gymwys yn cael eu hatgyfeirio at ddarpariaethau cyflogaeth amgen yn ardal eich awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau/cymorth cyflogaeth.
Mae Cysylltu â Gwaith wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a chydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw am 7 mlynedd ar ôl cwblhau’r prosiect, yn unol â chyfnodau cadw data Cysylltu â Gwaith.
O dan yr hawliau mynediad gwrthrych i ddata a roddir gan y GDPR, mae gennych yr hawl i:
- Gael gwybod/cyrchu’r wybodaeth sydd gan y prosiect Cysylltu â Gwaith amdanoch chi
- Gofyn i ni gywiro camgymeriadau yn y data hwnnw
- Gwrthwynebu prosesu am resymau sy’n ymwneud â’ch sefyllfa benodol (mewn rhai amgylchiadau)
- Cyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- Gofyn i’ch data gael ei ddileu (mewn rhai amgylchiadau)
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), sef y rheoleiddiwr annibynnol dros ddiogelu data
Manylion Cyswllt SCG
Gwefan:Gwneud cwyn | ICO
Rhif Ffôn: 0303 123 1113
Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu
Cyngor Caerdydd fydd y rheolwr data ar gyfer unrhyw ddata personol rydych wedi’i ddarparu mewn perthynas â’r rhaglen Cysylltu â Gwaith. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol sydd gennym i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd y rhaglen gyflogadwyedd.
Erthygl 6(1)(e) – Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg sy’n cael ei gwneud er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol, gyda sail glir yn y gyfraith.
Pa ddata personol fyddwn ni’n ei gasglu a’i brosesu
Mae pa ddata personol y byddwn yn ei gasglu ac yn ei brosesu yn cael ei ddiffinio o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.
Ar gyfer y rhaglen gyflogadwyedd hon, byddwn yn casglu’r data personol canlynol:
- Enw(au) Cyntaf
- Cyfenw
- Cyfeiriad
- Cyfeiriad E-bost Personol
- Rhif Ffôn
- Rhif Yswiriant Gwladol yr Hawlydd
- Dyddiad Geni
Efallai y bydd data arall hefyd yn cael ei gasglu ond nid yw’n cael ei nodi fel data personol o dan GDPR y DU.
O dan Erthygl 9(2)(g) GDPR y DU – Rhesymau budd cyhoeddus sylweddol (gyda sail yn y gyfraith) fel ei sail gyfreithiol. Yr amod budd cyhoeddus sylweddol penodol a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018; yw bod Rhan 2 (8) yn gymwys: Cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal.
Data Categori Arbennig:
- Cyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar weithio
- Ethnigrwydd
- Statws anabledd
- Anghenion Cymorth
I gael gwybod mwy am ddibenion yr AGPh, sut mae’r AGPh yn defnyddio gwybodaeth bersonol at y dibenion hynny a’ch hawliau gwybodaeth, gan gynnwys sut i ofyn am gopi o’ch gwybodaeth, gweler gov.uk.
I gael gwybod mwy am ddibenion Cysylltu â Gwaith, sut mae Cysylltu â Gwaith yn defnyddio gwybodaeth bersonol at y dibenion hynny a’ch hawliau gwybodaeth, gan gynnwys sut i ofyn am gopi o’ch gwybodaeth, cysylltwch â Cysylltu â Gwaith.
