Cwrs Gwasanaeth Cwsmeriaid – 16 Medi – Hyb Cymunedol Ty’r Groes
Gwaith cynnal a chadw hanfodol yn Hyb y Llyfrgell Ganolog - Dydd Sadwrn 8 Chwefror
Ni fydd cyfrifiaduron cyhoeddus a staff ac argraffu drwy WiFi ar gael ddydd Sadwrn 8 Chwefror yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.
Ni effeithir ar Hybiau a llyfrgelloedd eraill.
Medi 16
Llun yn dangos yr adeilad Ty'r Groes. 

An image showing the Ty'r Groes building.

Cwrs Gwasanaeth Cwsmeriaid – 16 Medi – Hyb Cymunedol Ty’r Groes

  • Medi 16, 2026
  • 10:00 am-1:00 pm


    Eisiau gwella eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chymryd y cam nesaf tuag at waith?

    Ymunwch â’n sesiynau chwarae rôl ar sgiliau cyflogaeth hanfodol!

    Bydd y cyrsiau hyn yn eich helpu i:

    • Ddatblygu sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol
    • Datblygu hyder a phroffesiynoldeb
    • Dysgu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm
    • Ennill ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf – gan gynnwys mân anafiadau, DRABCD, defnyddio diffibriliwr, a rheoli gwaedu / sioc. Cewch fynd â phecyn Cymorth Cyntaf adref gyda chi ar ôl cwblhau’r cwrs

    O 16eg Medi bob Dydd Mercher am 6 wythnos

    10am i 1pm

    Hyb Cymunedol Ty’r Groes, Glan yr Afon, CF11 6FZ

    Anfonwch e-bost i archebu eich lle.



    Top