Gallwn ni eich helpu i benderfynu ar eich cam nesaf – boed yn dychwelyd i addysg, neu’n mynd i gyflogaeth neu hyfforddiant.
Gall y gwasanaeth I Mewn I Waith ddarparu’r canlynol i chi:
- Cyngor arbenigol ar gyflogaeth
 - Hyfforddiant am ddim (os yw ar gael)
 - Oes costau ymlaen llaw cyn y gallwch ddechrau swydd? Gallwn ariannu hyn i chi!
 - Arweiniad 1:1 trwy’r anawsterau sydd ynghlwm wrth ddod o hyd i waith#
 
Mynnwch gip ar rai o’n projectau i weld pa rai sy’n gweddu orau i chi ac yna cysylltwch.

Cymunedau am Waith +
- Cymorth 1:1 i ddod o hyd i waith!
 - Rydym yn gweithio yn eich ardal leol. Gallwn ni gwrdd lle rydych yn teimlo’n gyfforddus.
 - Hyfforddiant Am Ddim
 - Cymorth ariannol i’ch helpu i gael gwaith – gan gynnwys talu am gostau gofal plant a chludiant, dillad sydd eu hangen yn benodol ar gyfer cyfweliadau neu’r gwaith yn ogystal â ffioedd cyrsiau hyfforddi arbenigol (yn amodol ar fod yn gymwys)
 - Cymorth 1:1 pwrpasol i lunio CV a chwblhau ffurflenni cais
 - Paratoi ar gyfer cyfweliadau a chyngor bywyd go iawn yn uniongyrchol gan gyflogwyr
 
Cymhwysedd
- 16-24 oed
 - Ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
 - Byw yng Nghaerdydd
 
Project MILES
- Ydych chi’n ddigartref, yn syrffio soffas neu’n cael trafferth gyda llety? Yna mae’r project hwn ar eich cyfer chi!
 - Mae ar waith mewn llawer o Hosteli Ieuenctid – holwch eich gweithiwr hostel am ein cymorth.
 - Cymorth 1:1 i ddod o hyd i waith!
 - Cymorth ariannol i’ch helpu i gael gwaith – gan gynnwys talu am gostau gofal plant a chludiant, dillad sydd eu hangen yn benodol ar gyfer cyfweliadau neu’r gwaith yn ogystal â ffioedd cyrsiau hyfforddi arbenigol (yn amodol ar fod yn gymwys)
 - Cymorth 1:1 pwrpasol i lunio CV a chwblhau ffurflenni cais
 - Paratoi ar gyfer cyfweliadau a chyngor bywyd go iawn yn uniongyrchol gan gyflogwyr
 - Cymorth wrth ystyried eich dewisiadau tai
 - Cymorth wrth fynychu cyfarfodydd neu apwyntiadau tai
 
Cymhwysedd
- 16-24 oed
 - Yn ddigartref neu’n cael trafferth gyda llety
 - Ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
 - Byw yng Nghaerdydd
 
Project Dyfodol Disglair
Mae’r project hwn ar gyfer pobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal neu sy’n derbyn gofal yng Nghaerdydd.
- Cymorth 1:1 i ddod o hyd i waith!
 - Rydym yn gweithio yn eich ardal leol. Gallwn ni gwrdd lle rydych yn teimlo’n gyfforddus.
 - Hyfforddiant Am Ddim – cliciwch y ddolen i weld pa hyfforddiant sydd ar gael
 - Cymorth ariannol i’ch helpu i gael gwaith – gan gynnwys talu am gostau gofal plant a chludiant, dillad sydd eu hangen yn benodol ar gyfer cyfweliadau neu’r gwaith yn ogystal â ffioedd cyrsiau hyfforddi arbenigol (yn amodol ar fod yn gymwys)
 - Cymorth 1:1 pwrpasol i lunio CV a chwblhau ffurflenni cais
 - Paratoi ar gyfer cyfweliadau a chyngor bywyd go iawn yn uniongyrchol gan gyflogwyr
 
Lleoliadau Gwaith 6 Mis
- Ennill hyd at £75 yr wythnos gyda’r Lwfans Lleoliad
 - Ni fydd Lwfans Lleoliad yn effeithio ar gredyd cynhwysol nac unrhyw fudd-daliadau eraill rydych yn eu derbyn
 - Bydd cymorth ariannol ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer tocynnau bws/trên/beic, gwisgoedd a chyfarpar diogelu personol
 - Bydd gennych fentor yn y gwaith i’ch helpu i ddysgu sgiliau newydd
 - Bydd Gweithiwr Cymorth Dechrau Disglair yn cwrdd â chi bob wythnos yn eich lleoliad gwaith
 
Gwyliwch ein fideo i weld yr hyn y gall Project Dyfodol Disglair ei gynnig i chi.
Project Hyb Pafiliwn Butetown
Ydych chi’n byw yn Butetown neu’n treulio llawer o amser yn Butetown?
We can help you with:
- Dod o hyd i waith
 - Gwneud cais ar gyfer y brifysgol
 - Cyngor ac arweiniad ar gyfer cymryd eich camau nesaf o ran addysg neu gyflogaeth
 - Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i roi hwb i’ch gyrfa
 - Cyngor a chymorth ynglŷn â hunangyflogaeth
 - Eich cyflwyno i gyflogwyr a thimau cyswllt cyflogaeth
 - Dod o hyd i gyfleoedd
 
Beth am sgwrsio â ni ar-lein i gael cyngor?

										
												