Cymorth mentora i bobl 25 oed a hŷn

Gwaith cynnal a chadw hanfodol yn Hyb y Llyfrgell Ganolog - Dydd Sadwrn 8 Chwefror
Ni fydd cyfrifiaduron cyhoeddus a staff ac argraffu drwy WiFi ar gael ddydd Sadwrn 8 Chwefror yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.
Ni effeithir ar Hybiau a llyfrgelloedd eraill.

Ydych chi’n 25 oed neu’n hŷn ac yn chwilio am help i ddod o hyd i waith? Mae Mentoriaid Oedolion y Gwasanaeth i Mewn i Waith yn gallu helpu!

Ein prosiectau

Mae ein holl brosiectau yn cynnig:

  • Cymorth 1-i-1 wedi’i deilwra i’ch helpu i gyflawni eich nodau a’ch dyheadau
  • Cymorth cyflogadwyedd pwrpasol, helpu i greu CVs a llenwi ffurflenni cais, ynghyd â pharatoi ar gyfer cyfweliadau
  • Help gyda sut i chwilio am swyddi
  • Cymorth ariannol i symud i gyflogaeth (yn amodol ar gymhwysedd).
  • Derbyn hyfforddiant am ddim
  • Mynediad i gronfa rwystr ar gyfer anghenion hyfforddiant pwrpasol yn ogystal â goresgyn unrhyw rwystrau i hyfforddiant neu gyflogaeth
  • Help i gael mynediad i’r gwasanaeth ehangach a chymorth arall

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

I gael mynediad i un o’n prosiectau, mae’n rhaid i chi:

  • Fod yn 25 oed neu’n hŷn
  • Byw yng Nghaerdydd
  • Bod â’r hawl i weithio yn y DU

Os nad oes gennych fynediad i arian cyhoeddus ond eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, gallwn eich cefnogi o hyd.

Prosiect MILES

“Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl help rydych chi wedi’i roi imi… Fe wnaethoch chi roi ffordd allan i mi” –Cyfranogwr.

Ydych chi’n delio â digartrefedd ac mae gennych ddiddordeb mewn cyflogaeth? Os felly, mae ein gwasanaeth ar eich cyfer chi…

Rydym yn cynnig cymorth gyda:

  • sut i wneud cais am swyddi
  • defnyddio gwasanaethau tai,
  • cyllid i’ch helpu i fynd i mewn i’r gwaith (gan gynnwys costau trafnidiaeth, dillad cyfweliad a gwaith, a ffioedd cwrs hyfforddi arbenigol – yn amodol ar argaeledd).

Rydym yn gweithio o fewn y Tîm Amlddisgyblaethol Digartrefedd ac rydym yma i’ch helpu chi.

“Ar ôl cael caniatâd i aros fel ffoadur, fy rhwystr nesaf oedd i mi ffitio mewn i fyd gwaith. Yn ffodus, cwrddais â’m mentor a helpodd fi i gael cyllid ar gyfer y cwrs SIA. Ar ôl i mi basio, fe wnaeth hi fy helpu, trwy’r swyddfa bost, i fynd trwy’r holl gamau angenrheidiol i gael fy mathodyn SIA.

Nid dyna oedd diwedd y cymorth chwaith. Fe wnaeth hi fy mharatoi hefyd ar gyfer cyfweliad i gael swydd gyda chwmni fel stiward wrth aros am fy mathodyn. Fe wnaeth hi fy helpu i gael arian ar gyfer esgidiau a throwsus i’r gwaith.

Ar ôl cael profiad fel stiward, rhoddodd wybod i mi am gyfle am swydd gyda Chyngor Caerdydd. Fe wnaeth hi fy mharatoi ar gyfer y cyfweliad hwn hefyd. Llwyddais i gael y swydd, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel swyddog diogelwch yn yr hyb.

Fyddwn i ddim wedi cyrraedd mor bell â hyn heb bresenoldeb fy mentoriaid yn fy mywyd.”

Miles project logo

Homelessnes diciplinary team logo

Ar gyfer llywio trwy’r farchnad gyflogaeth a thai, gallwch dxod o hyd i adnoddau mwy defnyddiol ar wefan Cyngor Caerdydd.

Rhaglen Meithrin Gallu ar gyfer Meddygon sy’n Ffoaduriaid a Thramor

Mae’r rhaglen Meithrin Gallu yn bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i feddygon sy’n ffoaduriaid sy’n byw yn ardaloedd Caerdydd a’r Fro. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar egwyddorion mentora, wedi’i chynllunio i gefnogi meddygon sy’n ffoaduriaid i wella eu hyder a chryfhau eu gwytnwch i lywio rhwystrau a heriau wrth iddynt geisio cofrestriad gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC).

Nod y bartneriaeth hon yw cynorthwyo meddygon sy’n ffoaduriaid i ailgymhwyso i safonau’r DU a sicrhau cyflogaeth sy’n berthnasol i’w cymwysterau a’u sgiliau (dolen i BIPCaF yma)

 Rydym yn cefnogi meddygon sy’n ffoaduriaid i:

  • Lunio Cynllun Gweithredu Cyflogadwyedd gyda nodau cyraeddadwy i ailddechrau eu proffesiwn meddygol yn y DU
  • Goresgyn rhwystrau i hyfforddiant a/neu gyflogaeth gan gynnwys magu hyder, hyfforddiant diogelu, GDG, costau teithio ac ati yn dibynnu ar gymhwysedd
  • Paratoi ar gyfer y Prawf Saesneg Galwedigaethol (OET) a’r System Brofi Ieithyddol Saesneg Ryngwladol (IELTS) mewn partneriaeth â rhanddeiliaid perthnasol gan gynnwys Alltudion ar Waith (DPIA) a rhaglenni RefuAid
  • Adnewyddu gwybodaeth a sgiliau meddygol cyn ymgymryd â Bwrdd Asesiadau Proffesiynol ac Ieithyddol (PLAB) Rhan 1 a Rhan 2 neu MRCOG Rhan 1 a Rhan 2/MRCP1&2
  • Ymgyfarwyddo â gweithdrefnau a systemau meddygol y DU trwy Leoliad Cysylltiad Clinigol (CAP)
  • Cael cofrestriad proffesiynol gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC)
  • Cael Lleoliad Cysylltiad Clinigol (CAP) gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Dod o hyd i waith drwy swyddi Staff Ychwanegol sydd ar gael gyda’r GIG a thrwy lwybrau eraill

Beth mae’r rhaglen Meithrin Gallu yn ei gynnig:

  • Mentora wyneb yn wyneb a chyngor ar y broses o ailgymhwyso i safon y DU yn unol â gofynion y CMC
  • Paratoi at arholiadau OET gyda mynediad am ddim drwy ein partneriaid Alltudion ar Waith (DPIA) a rhaglenni RefuAid
  • Mynediad i Leoliad Cysylltiad Clinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Cymorth i baratoi ar gyfer arholiadau PLAB 1 a 2
  • Help gyda chost arholiadau, teithio, gofal plant a GDG yn dibynnu ar gymhwysedd
  • Cymorth wrth chwilio am swydd
  • Cefnogaeth barhaus drwyddi draw, ar ôl cofrestru gyda CMC ac wrth chwilio am swydd
  • Cymorth lles

Cymhwysedd:

  • Meddygon cymwys sy’n ffoaduriaid, gyda dogfennau proffesiynol perthnasol
  • Yn byw yn ardaloedd Caerdydd a’r Fro
  • Caniatâd i weithio yn y DU

Du ac Ethnig Leiafrifol

“Mae fy ngwerthfawrogiad dwys yn mynd i Gyngor Caerdydd am fy helpu i ddod o hyd i’m dewrder. Fe wnes i ddysgu cymaint o’m hyfforddiant a’m mentor anhygoel!” –Cyfranogwr.

Ydych chi’n rhan o’r gymuned Ddu ac Ethnic Leiafrifol ac yn canolbwyntio ar ennill cyflogaeth? Os felly, mae ein gwasanaeth ar eich cyfer chi…

  • Cymorth i lywio trwy’r farchnad gyflogaeth gyda chyflogwyr amrywiol.
  • Cymorth ariannol i’ch helpu i fynd i mewn i’r gwaith – gan gynnwys talu am gostau trafnidiaeth, dillad cyfweliad/dillad sy’n benodol i waith a ffioedd cyrsiau hyfforddi arbenigol (yn amodol ar gymhwysedd).

Darpariaeth 50+

“Rwyf mor ddiolchgar am y cymorth a gefais gan fy mentor. Roeddwn i’n teimlo fel na fyddai unrhyw gyflogwyr wedi bod eisiau fy nghyflogi. Roedd fy mentor yn credu yn fy ngalluoedd”–Cyfranogwr.

  • Ydych chi dros 50 oed?
  • Ydych chi mewn cyflogaeth neu’n ddi-waith? (Mae cymorth ar gael ar gyfer pobl gyflogedig a di-waith)
  • Oes anghenion cyflogaeth a hyfforddiant arnoch?
  • Oes rhwystr sy’n eich atal rhag cael mynediad i hyfforddiant neu gyflogaeth?

Os felly, mae ein gwasanaeth ar eich cyfer chi.

  • Cymorth 1-i-1 wedi’i deilwra i’ch helpu i gyflawni eich nodau a’ch dyheadau.
  • Mentoriaid cyflogaeth penodol ar gyfer pobl dros 50 oed
  • Help i greu CV, gwneud cais a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.
  • Cyrsiau ar gyfer pobl dros 50 oed
  • Cymorth i lywio trwy’r farchnad gyflogaeth..
  • Cymorth ariannol i’ch helpu i fynd i mewn i’r gwaith – gan gynnwys talu am gostau trafnidiaeth, dillad cyfweliad/dillad sy’n benodol i waith a ffioedd cyrsiau hyfforddi arbenigol (yn amodol ar gymhwysedd ac arian).

GOV.UK logo

Ar gyfer awgrymiadau cyfweliad i bobl dros 50 oed, gallwch ddod o hyd i ragor o adnoddau defnyddiol ar wefan Llywodraeth y DU.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Mae’r Comisiynydd yn gweithio i Gymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda: Hafan – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae’r wefan hon yn cynnig lleoliad canolog ar gyfer gwybodaeth am wasanaethau, gweithgareddau a chymorth lleol a all helpu pobl hŷn yng Nghaerdydd i fyw’n dda: Hafan – Age Friendly Cardiff : Age Friendly Cardiff

Darpariaeth yn y Gwaith

“Roeddwn i’n cael trafferth ymdopi’n ariannol â’m swydd flaenorol. Gyda chymorth gan fy mentor a thrwy’r cyfle i gael cyllid, roeddwn i’n gallu uwchsgilio a dod o hyd i swydd well” – Cyfranogwr

  • Ydych chi o oedran gweithio?
  • Ydych chi mewn cyflogaeth? Gallai hyn fod yn swydd amser llawn, ran-amser, ddi-awr neu hunangyflogedig. Croeso i bawb
  • Oes anghenion cyflogaeth a hyfforddiant arnoch?
  • Oes angen ail incwm neu yrfa newydd arnoch?
  • Oes rhwystr sy’n eich atal rhag cael mynediad i hyfforddiant neu gyflogaeth?

Os felly, mae ein gwasanaeth ar eich cyfer chi.

  • Cymorth 1-i-1 wedi’i deilwra i’ch helpu i gyflawni eich nodau a’ch dyheadau.
  • Cymorth cyflogadwyedd pwrpasol, helpu i greu CVs a llenwi ffurflenni cais, ynghyd â pharatoi ar gyfer cyfweliadau.
  • Help i lywio trwy’r farchnad gyflogaeth o amgylch ymrwymiadau.
  • Cymorth ariannol i’ch helpu i fynd i mewn i’r gwaith – gan gynnwys talu am gostau trafnidiaeth, dillad cyfweliad/dillad sy’n benodol i waith a ffioedd cyrsiau hyfforddi arbenigol (yn amodol ar gymhwysedd ac arian).

Working Wales logo

I gael mwy o wybodaeth am Gyfrifon Dysgu Personol, gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan Cymru’n Gweithio.

Careers Wales logo

Ar gyfer opsiynau ar ôl colli swydd, gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan Gyrfa Cymru.

Top